Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol

Mae’r Fframwaith yn nodi canlyniadau disgwyliedig blynyddol clir ym maes llythrennedd a rhifedd i bob dysgwr rhwng 5 a 14 oed. Ceir disgrifiadau manwl o beth mae disgwyl i blentyn allu ei wneud ar flwyddyn arbennig yn ei addysg gynradd ac uwchradd, o Flwyddyn Derbyn i Flwyddyn 9. Bydd ysgolion cynradd ac uwchradd yn defnyddio'r Fframwaith i sicrhau bod y broses o addysgu sgiliau llythrennedd a rhifedd wedi'i hymgorffori ym mhob pwnc ar draws y cwricwlwm yn hytrach na'i bod yn canolbwyntio ar wersi Saesneg, Cymraeg a Mathemateg yn unig. Y nôd gan Lywodraeth Cymru yw codi safonau llythrennedd a rhifedd yn genedlaethol. Bydd y Fframwaith yn caniatáu i bob athro fonitro cynnydd disgyblion o gymharu â disgwyliadau o flwyddyn i flwyddyn. Disgwylir i ysgolion adrodd yn flynyddol i rieni a gofalwyr ar gynnydd a chryfderau disgyblion unigol ac ar y meysydd y mae angen rhagor o gymorth arnynt o ran llythrennedd a rhifedd fel rhan o'r adroddiad blynyddol. Bydd yr adroddiadau’n cychwyn o Fedi 2014.

 

Beth yw'r Profion Cenedlaethol?

Cafodd pob dysgwr ym mlynyddoedd 2 hyd at 9 eu hasesu gan ddefnyddio'r profion cenedlaethol am y tro cyntaf ym mis Mai 2013 a chafodd pob rhiant wybodaeth am sgôr ac oedran darllen a rhifedd eu plant. Bydd y disgyblion yn sefyll profion darllen Cymraeg a Saesneg ac eleni, am y tro cyntaf, bydd dau brawf rhifedd – un prawf ar waith rhif ac un ar ddatrys problemau mathemategol. Bydd yr ysgol yn defnyddio’r canlyniadau hyn yn rhannol wrth benderfynu a oes angen rhagor o gymorth ar blentyn mewn rhyw faes arbennig. Bydd y profion darllen a rhifedd cenedlaethol yn cael eu cynnal ym mis Mai.

Pam fod angen y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd?

Casglwyd tystiolaeth eang a oedd yn dangos fod angen i Gymru wella’i lefelau llythrennedd a rhifedd ar draws y boblogaeth:

  • ymchwil ym maes cyflogwyr
  • adroddiadau arolygon Estyn
  • asesiadau diwedd cyfnod allweddol gan athrawon
  • canlyniadau PISA

Beth yw LLYTHRENNEDD?

Ystyr llythrennedd yw defnyddio sgiliau iaith mewn gweithgareddau bob dydd yn yr ysgol, yn y cartref, yn y gwaith ac yn y gymuned.bMae llythrennedd yn disgrifio cyfres o sgiliau, gan gynnwys siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu mae eu hangen i wneud synnwyr o’r byd o’n cwmpas. Mae’n golygu defnyddio sgiliau llythrennedd a gwybod sut i ddefnyddio Cymraeg a Saesneg.

Beth yw RHIFEDD?

Mae rhifedd yn golygu defnyddio sgiliau mathemategol mewn gweithgareddau bob dydd yn yr ysgol, yn y cartref, yn y gwaith ac yn y gymuned. Mae rhifedd yn disgrifio’r gyfres o sgiliau y mae eu hangen i fynd i’r afael â phroblemau’r byd go iawn mewn amryw o sefyllfaoedd.

Beth yw pwrpas y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd?

Ei bwrpas yw disgrifio’n fanwl gywir y disgwyliadau cenedlaethol blynyddol ar gyfer llythrennedd a rhifedd sydd ar ddisgyblion 5 i 14 oed (o’r dosbarth Derbyn i Flwyddyn 9 ) h.y. beth mae disgwyl rhaid i ddisgyblion ei ddysgu. Bwriad arall yw i helpu athrawon i adnabod a chynnig cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm h.y. beth sy’n rhaid iddynt ei addysgu a’i asesu. Mae’r Fframwaith i fod o gymorth wrth i athrawon benderfynu ar gynnydd disgyblion mewn llythrennedd a rhifedd. Dylai fod o gymorth i athrawon lunio adroddiadau blynyddol i rieni/gofalwyr yn seiliedig ar asesiad athrawon, fel bod ganddynt ddarlun clir o gynnydd y disgybl a beth yw’r camau nesaf.

Sut bydd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd yn helpu ysgolion?

Dylai fod o gymorth drwy helpu athrawon i adnabod a chynnig cyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm h.y. ym mhob pwnc (ac nid yn unig yn y Gymraeg a’r Saesneg ac mewn Mathemateg). Dylai helpu athrawon i asesu cynnydd disgyblion mewn llythrennedd a rhifedd a llunio adroddiadau blynyddol i rieni/ofalwyr. Dylai roi gwybod i athrawon, disgyblion a rhieni/gofalwyr sut mae’r disgybl yn datblygu a beth yw eu camau nesaf.

Oes yna wahaniaeth yn y gydran Llythrennedd yn y Gymraeg a’r Saesneg?

Yn syml na, does dim gwahaniaeth. Mae’r gydran llythrennedd ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg ac mae’n nhw’n debyg iawn. Mae’r disgwyliadau yr un fath yn Gymraeg ac yn Saesneg, gyda rhai elfennau gwahanol yn y gydran llythrennedd Cymraeg (e.e. Treigladau).

Ydy’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd ar gyfer pob disgybl?

Eto, yn syml ydy. Mae’r Fframwaith yn cynnwys pob disgybl, o’r flwyddyn Derbyn i Flwyddyn 9. Disgwylir i bob disgybl wneud cynnydd yn unol â’i allu. Gall disgybl gydag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) fod yn gweithio’n îs na’r disgwyliadau ar gyfer y flwyddyn. Gall disgybl mwy abl a thalentog fod yn gweithio uwchben disgwyliadau’r flwyddyn.

Ydy’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd yn statudol?

YDY ...

Mae wedi bod yn statudol o fis Medi 2013 h.y. rhaid athrawon ei gyflwyno a’i weithredu. Bydd asesu yn erbyn y FfLlRh yn ofyniad statudol o fis Medi 2014 h.y. rhaid i bob ysgol asesu cynnydd pob disgybl yn ôl gofynion y Fframwaith ac adrodd i rieni yn flynyddol wedi hynny.

Sut byddwn yn cael gwybod am gynnydd ein plentyn mewn llythrennedd a rhifedd?

Mae’n debygol y bydd ysgolion yn llunio adroddiad ar gynnydd pob disgybl, ac yn ei gyflwyno I rieni/gofalwyr yn flynyddol. Bydd yr adroddiad yn nodi cryfderau’r disgybl a beth sydd angen ei ddatblygu mewn llythrennedd a rhifedd. Bydd y wybodaeth yma wedi ei chasglu ar draws yr holl bynciau ar draws y cwricwlwm.

Beth am y Profion Darllen a Rhifedd?

Yn ogystal â’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol bydd Profion Darllen a Phrofion Rhifedd cenedlaethol yn flynyddol ar gyfer pob disgybl ym mhob blwyddyn o Flwyddyn 2 i Flwyddyn 9. Bydd ysgolion yn adrodd i rieni ar ganlyniadau’r Profion hyn yn flynyddol wedi hyn a bydd y wybodaeth yn cael ei chasglu yn genedlaethol.

Gobeithiwn fod yr ychydig wybodaeth yma yn egluro’r hyn yw’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd i chi.

FaLang translation system by Faboba

International School AwardAQInvestor in PeopleActive Marc CymruICTHealthy SchoolsEco Schools