Y Cyngor Ysgol
Croeso i dudalen Y Cyngor Ysgol, Ysgol y Gwernant
Beth yw Cyngor Ysgol? Grŵp o ddisgyblion yw cyngor ysgol, wedi’u hethol gan eu cyd-ddisgyblion i gynrychioli eu barn a chodi materion gydag uwch-reolwyr a llywodraethwyr yr ysgol. Gall cyngor yr ysgol hefyd gymryd rhan a threfnu prosiectau ar ran y disgyblion, a chyfrannu at gynllunio ac at bethau fel Cynllun Datblygu’r Ysgol, cyfarfodydd y corff llywodraethu a phenodiadau staff.
Byddem yn trafod unrhyw faterion sydd wedi codi, syniadau am sut i wella’r ysgol a threfnu unrhyw ddigwyddiadau. Fe welir aelodau y cyngor yn y derbynfa, mae’n bosib i chi weld munudau y cyfarfodydd yn yr ysgol os ydych yn dymuno.
Bydd Cyngor Ysgol y Gwernant yn:
- Lais i holl blant yr ysgol
- Parhau i wella ein hysgol
- Helpu cadw’r ysgol yn iach a diogel
- Helpu’r plant i fod yn ffrindiau
- Rhoi cyfle i blant ac oedolion rannu eu syniadau
- Trafod syniadau newydd.
- Casglu arian er mwyn helpu elusennau a plant a phobl llai ffodus na ni
- Cyfarch ymwelwyr newydd i’r ysgol a sicrhau bod croeso gan y plant
- Gweithio efo’r plant sydd ar y Cyngor Eco, Llysgenhadon Gwych, Llysgenhadon Chwaraeon, Grwp Snag, Siarter Iaith, Diogelwch y Ffordd ac Arweinyddion Digidol
- Gwneud ein gorau i wneud pawb yn hapus a diogel
- Cydweithio gyda CRhA Ysgol y Gwernant a chreu rhaglen o weithgareddau ar gyfer y flwyddyn
- Cyfrannu at bolisïau – blwyddyn diwethaf dyma ni yn helpu i greu polisi disgwyliadau dosbarth a disgwyliadau buarth
- Y Cyngor Ysgol yw llais ein plant, mae ganddynt yr hawl i drafod a gwneud penderfyniadau er mwyn gwella ein hysgol.
Aelodau 2019 - 2020
Blwyddyn 6 - Sam a Lottie
Blwyddyn 5 - Poppy a Ben
Blwyddyn 4 - Willow a Molly
Blwyddyn 3 - Freya ac Ieuan
Blwyddyn 2 - Tomi ac Eva
Yn dilyn etholiad yn ein cyfarfod cyntaf, dyma'r canlyniadau; Cadeirydd - Sam Is-gadeirydd - Ben Ysrifennydd - Lottie Is-ysgrifennydd - Willow Trysorydd - Poppy
Beth mae’r Cyngor Ysgol am wneud eleni?
1, Casglu arian i wahanol elusennau gan gynnwys; Yr Eglwys, Pabi Coch, Diwrnod Plant Mewn Angen, Diwrnod Siwmpyr Nadolig, Sports Relief, Marie Curie, a Race for Life. Hefyd byddwn yn casglu dillad a bwyd yn ystod yr Wythnos Gristnogol i gyfrannu at y banc bwyd yn Llangollen.
2, Parhau i hyrwyddo'r Siarter Iaith - cyd-weithio gyda Cyngor y dref i greu posteri dwyiethog ar gyfer y ffair Nadolig, Cynnal wythnos gwrth-fwlio, gwella ffitrwydd ein plant. Cefnogi'r ysgol gyda gweithredu'r Cwricwlwm Newydd..
3, Codi ymwybyddiaeth o'r Bydi's Buarth, a chyd-weithio gyda'r Cyngor Eco ar briosect yn seiliedig ar gwastraff.