(2021-2022)
Dyma'r disgyblion sydd wedi cael ei dewis i fod ar y Cyngor Eco eleni :
Ruby, Dexter, Austin,Elin,Connor, Seren a Flo
Maent yn griw brwdfrydig sydd yn cyfarfod bob mis i drafod materion Eco Ysgol y Gwernant . Rydym yn sicrhau ein bod fel ysgol yn gwneud ein gorau i fod yn ysgol werdd ac yn gwarchod yr amgylchfyd. Rydym fel ysgol yn falch o gyhoeddi ein bod wedi llwyddo i adnewyddu y wobr Platinwm Eco yn Hydref 2020. Da iawn pawb a diolch i'r Cyngor Eco am eu holl waith caled.
Dyma ein Eco Gôd am y flwyddyn 2021-22:
Diffodd pob golau a chau bob tap. Plannu blodau a bwyta'n iach. Arbed ynni, ailgylchu popeth. Arbed dwr, gwres ac ynni Eco Gôd ni , eich byd gwerthfawr chi. (Canu ar dôn Gee Ceffyl Bach )
|
Dyma rai o'n targedau Eco am y flwyddyn 2021-2022 :
¨
¨ Tips Eco ar lein i rieni ar trydar / gweplyfr
- Prosiect Eco ysgol gyfan / Thema
-Hybu ffitrwydd a iechyd
¨ Wythnos Cerdded i’r Ysgol– dwywaith y flwyddyn .
¨ Monitro a gwobrwyo bocs bwyd eco gyfeillgar
¨ Cydweithio ar brosiect gyda’r cynghorau ysgol eraill .
¨ Hybu traddodiadau gwledydd eraill gan ffocysu ar gemau a dawns draddodiadol.
¨ Casglu sbwriel (ysgol yn unig)— Beth yw effaith sbwriel ar natur ? Rota.
¨ Ailgylchu
¨ Tyfu blodau i ddenu bywyd gwyllt yn yr ysgol.
- Amser antur - tasgau Eco .
Ailgylchu , Ailgylchu , Ailgylchu !
Rydym fel cyngor yn meddwl fod ailgylchu yn hynod o bwysig . Dyma rai o'r pethau yr ydym yn ei ailgylchu yn ein hysgol ni :
* Papur a chardfwrdd
* Cartons llaeth
* Plastig
* Tiniau
* Cetris inc
* Ffonau symudol
* Batris
Gwirfoddolwyr
Os oes gennych chi fel rhieni sgil , amser neu syniadau ar gyfer helpu Ysgol y Gwernant i fod yn ysgol werdd buasem yn hynod o ddiolchgar o'ch cefnogaeth a'ch cymorth. Diolch.
Y Bin compost
Fel cyngor rydym yn credu'n gryf mewn peidio a gwastraffu dim ac felly rydym yn taflu gwastraff fffrwythau a llysiau i'r bin compost . Dyma rai pethau eraill y gallech ddod i'r ysgol i'n helpu i greu compost ( nid ydym angen gwastraff ffrwythau a llysiau) :
* Bocsys wyau * Papur newydd a chardfwrdd * Dail
* Lludw tân * Gwellt *Plisgyn wyau
* Gwallt a gwinedd * Ychydig bach o wair * Brigau bach
* Ychydig bach o wlân