Dosbarthiadau
Meithrin
CROESO I'R DOSBARTH MEITHRIN 2020 - 2021
Tymor yr Hydref 2020
Ar ddechrau cyfnod newydd mewn ysgol newydd, ein prif nôd yw sicrhau fod pob plentyn yn ymgartrefu'n hapus yn y dosbarth.
Yn ystod y tymor byddwn yn gwrando ar syniadau a diddordebau’r plant ac yn rhoi’r cyfle iddynt arwain wrth ddewis
gweithgareddau a thasgau. Byddant yn rhan anatod o'r cynllunio i greu ardaloedd diddorol ac ysgogol.
I ddechrau'r tymor, rydym am ddod i adnabod y plant trwy edrych ar y thema 'Dyma fi'. Yna, byddwn yn gofyn am
syniadau'r plant wrth ystyried themau newydd.
Byddwn yn edrych ar
- rhannau o’r corff
- bwyta a chadw’r corff yn iach
- teulu a ffrindiau
- ardal leol a chartrefi.
- Byddwn yn ogystal yn gosod tasgau a gweithgareddau am Ddiolchgarwch a’r Nadolig.
Cofiwch fod croeso i chi ddod i'n qweld os oes gennych unrhyw gwestiwn neu bryder.
Diolch yn fawr
Mrs Eleri Jones
Derbyn
CROESO I'R DOSBARTH DERBYN 2020-2021
Tymor yr Hydref 2020
Croeso i ddechrau blwyddyn ysgol newydd ar ôl cyfnod heriol iawn i bawb yn ddiweddar!
Ein prif nôd ar ddechrau newydd fel hyn yw sicrhau fod pob plentyn yn ymgartrefu'n hapus yn y dosbarth.
Yn ystod y tymor byddwn yn gwrando ar syniadau a diddordebau’r plant ac yn rhoi’r cyfle iddynt arwain wrth ddewis
gweithgareddau a thasgau. Byddant yn rhan anatod o'r cynllunio i greu ardaloedd diddorol ac ysgogol.
I ddechrau'r tymor, rydym am ddod i adnabod y plant yn well trwy edrych ar y thema 'Dyma fi'. Yna, byddwn yn gofyn am
syniadau'r plant wrth ystyried themau newydd.
Byddwn yn edrych ar
- rhannau o’r corff
- bwyta a chadw’r corff yn iach
- teulu a ffrindiau
- ardal leol a chartrefi.
- Byddwn yn ogystal yn gosod tasgau a gweithgareddau am Ddiolchgarwch a’r Nadolig.
Cofiwch fod croeso i chi ddod i'n qweld os oes gennych unrhyw gwestiwn neu bryder.
Diolch yn fawr
Mrs Eleri Jones
Blwyddyn 1
Croeso i Flwyddyn 1 2020 - 2021
Croeso yn ôl !!
Ar ddechrau'r flwyddyn ysgol newydd ein nôd yw sicrhau fod y plant yn ymgartrefu'n hapus ac hyderus yn eu dosbarth newydd . Cofiwch os oes unrhyw bryder gennych dewch atom am sgwrs .
Yn nhymor yr Hydref byddwn yn gweithio ar y thema :
Ribidires
Byddwn yn astudio ........
- Gofalu am anifeiliaid
- Anifeiliaid anwes
- Anifeiliaid y fferm
- Anifeiliaid o gwmpas y Byd
- Chwedl Gelert
- Cerddoriaeth/Dawns 'Carnifal yr Anifeiliaid'
- Efelychu gwaith yr arlunydd William Brown
- Byddwn hefyd yn cwblhau gweithgareddau am Ddiolchgarwch, Nadolig a llawer mwy !
Yn ogystal, drwy gydol y tymor, byddwn yn dilyn arweiniad ,syniadau a diddordebau y plant i greu ardaloedd cyffrous ac ysgogol o fewn a thu allan i'r dosbarth .
Cofiwch os oes unrhyw bryder gennych dewch atom am sgwrs .
Miss Einir Jones
Blwyddyn 2
Croeso i Flwyddyn 2 2020 - 2021

Miss Elin Davies
Blwyddyn 3
Croeso i Flwyddyn 3!
Tymor y Gwanwyn 2020
Yn dilyn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd gan Lywodraeth Cymru, rydym yn yr ysgol yn blaenoriaethu rhifedd a llythrennedd ym mhob agwedd o’r cwricwlwm. I sicrhau ein bod yn ymateb i’r gofynion hyn byddwn yn dysgu trwy thema yn y prynhawn.
Thema: Egyptian Explorer - yn dilyn darganfod mymi yn y dosbarth, byddwn yn dysgu am Yr Aifft y tymor hwn. Byddwn yn edrych ar hanes yr Aifft gan gynnwys y Pyramidau, Fferos gwahanol, Duwiau o'r cyfnod a hieroglyphics. Yn ogystal a hyn, byddwn yn edrych ar y Daearyddiaeth sy'n dod hefo'r thema e.e Yr Afon Nil, Mapio a Gwleydydd Cyfagos.
Mathemateg: Byddwn yn cwblhau gweithgareddau yn seiliedig ar gwerth lle, adio a thynnu, lluosi a rhannu, mesur, siap a safle, trin data, patrymau rhif ac amser.
Iaith - Deialog, Stori Fer a Hysbyseb Gwyliau. Bydd yr holl waith iaith yn seiliedig ar y thema 'Egyptian Explorer'. Byddwn yn cwblhau y gwaith ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gwyddoniaeth: Craig yr Oesoedd
ABCH: Meddylfryd twf a meddwl iach
Dylunio a Thechnoleg/Celf: Tasgau Creadigol o fewn y gwaith thema
Addysg Gorfforol: Dawns a Gymnasteg / Chwaraeon tu allan bob dydd Mawrth.
Diolch yn fawr am eich cydweithrediad cyson!
Miss Anna Smith
Blwyddyn 4
Croeso i Flwyddyn 4!
Tymor yr Hydref 2020
Croeso nôl i chi gyd ar ôl cyfnod heriol iawn, mae'n braf gweld pawb yn nôl. Ar ddechrau'r flwyddyn ysgol newydd ein nôd yw sicrhau fod y plant yn ymgartrefu'n hapus ac hyderus yn eu dosbarth newydd . Cofiwch os oes unrhyw bryder gennych dewch atom am sgwrs .
Yn dilyn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd gan Lywodraeth Cymru, rydym yn yr ysgol yn blaenoriaethu rhifedd a llythrennedd ym mhob agwedd o’r cwricwlwm. I sicrhau ein bod yn ymateb i’r gofynion hyn byddwn yn dysgu trwy thema yn y prynhawn.
Thema: Fantasy - Diwrnod cyffrous oedd y diwrnod cyntaf yn nol, roedd rhywbeth wedi ymweld a'r dosbarth! Roedd olion traed ar hyd y lle, nyth gyda phlisgyn wy, plu, ffon hudlath a dilledyn du. Bydd y disgyblion yn casglu gwybodaeth yn ystod yr hanner tymor er mwyn darganfod pa greadur a ddaeth i'r dosbarth.
Mathemateg: Byddwn yn cwblhau gweithgareddau yn seiliedig ar gwerth lle, adio a thynnu, lluosi a rhannu, mesur, siap a safle, trin data, patrymau rhif ac amser.
Iaith - Adroddiad, Sgript a Disgrifiad. Bydd yr holl waith iaith yn seiliedig ar y thema 'Fantasy'. Byddwn yn cwblhau y gwaith ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gwyddoniaeth: Am dro i'r Goedwig - Cynefinoedd a Chadwyni bwyd
ABCH: Meddylfryd twf a meddwl iach
Dylunio a Thechnoleg/Celf: Tasgau Creadigol o fewn y gwaith thema.
Addysg Gorfforol: Dawns a Gymnasteg / Chwaraeon tu allan bob dydd Iau.
Diolch yn fawr am eich cydweithrediad cyson!
Cofiwch os oes gennych unrhyw bryder, cysylltwch am sgwrs.
Mrs Anna Rowlands
Blwyddyn 5
Tymor yr Hydref 2020
Yn dilyn y Fframwaith llythrennedd a rhifedd gan Llywodraeth Cymru rydym ni yn yr ysgol yn blaenoriaethu rhifedd a llythrennedd ym mhob agwedd o’r cwricwlwm. I alluogi ein bod yn ymateb i’r gofynion rydym yn dysgu trwy thema.
Gobeithio eich bod wedi mwynhau'r Hanner Tymor, ac n barod i weithio'n galed! Dyma ein thema hyd at y Nadolig.
Iaith- Portread
Taflen Wybodaeth
Hunan gofiant
Thema- Alien Invasion!
Yn dilyn sbardun cyffrous o lanast ac eitemau estronol wedi eu gadael yn y dosbarth ac ar y cae, mi fyddem yn dysgu am y gofod. Mae hyn yn cynnwys-
- Planedau
- Gofodwyr
- Estronau
- Hanes NASA
- Haul a sêr
- Y Dyfodol
- Technoleg
Mathemateg- Gwerth lle, adio a thynnu, lluosi a rhannu, arian, amser, ffracsiynau, degolion a chanrannau, trin data, mesur, siâp
Gwyddoniaeth- Egni sydd yn symud
Iechyd a Lles- amser cylch cyson i rannu syniadau a theimladau a chynnal gweithgareddau i godi hunan hyder
Addysg Gorfforol- gweithgareddau thu allan i wella ffitrwydd
dawns ffitrwydd ddyddiol yn y dosbarth
Diolch yn fawr iawn am eich cydweithrediad,
Mrs Fflur Evans
Blwyddyn 6

Miss Kate Jones