Croeso i Flwyddyn 2 2020 - 2021
Croeso yn ôl !!
Ar ddechrau'r flwyddyn ysgol newydd ein nôd yw sicrhau fod y plant yn ymgartrefu'n hapus ac hyderus yn eu dosbarth newydd . Cofiwch os oes unrhyw bryder gennych dewch atom am sgwrs .
Yn nhymor yr Hydref byddwn yn gweithio ar y thema :
Ribidires
Byddwn yn astudio ........
- Gofalu am anifeiliaid
- Anifeiliaid anwes
- Anifeiliaid y fferm
- Anifeiliaid o gwmpas y Byd
- Chwedl Gelert
- Cerddoriaeth/Dawns 'Carnifal yr Anifeiliaid'
- Efelychu gwaith yr arlunydd William Brown
- Byddwn hefyd yn cwblhau gweithgareddau am Ddiolchgarwch, Nadolig a llawer mwy !
Yn ogystal, drwy gydol y tymor, byddwn yn dilyn arweiniad ,syniadau a diddordebau y plant i greu ardaloedd cyffrous ac ysgogol o fewn a thu allan i'r dosbarth .
Cofiwch os oes unrhyw bryder gennych dewch atom am sgwrs .
Miss Elin Davies