Croeso i Flwyddyn 4!
Tymor y Gwanwyn 2021
Croeso nôl i chi gyd ar ôl cyfnod heriol iawn, mae'n braf gweld pawb yn nôl. Ar ddechrau'r tymor y Gwnawyn, ein nôd yw sicrhau fod y plant yn ymgartrefu'n hapus ac hyderus yn eu dosbarth newydd . Cofiwch os oes unrhyw bryder gennych dewch atom am sgwrs .
Yn dilyn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd gan Lywodraeth Cymru, rydym yn yr ysgol yn blaenoriaethu rhifedd a llythrennedd ym mhob agwedd o’r cwricwlwm. I sicrhau ein bod yn ymateb i’r gofynion hyn byddwn yn dysgu trwy thema yn y prynhawn.
Thema: Farm to Fork - Diwrnod cyffrous oedd y diwrnod cyntaf yn nol, cawson ni lythyr yn cyrraedd gan Adam Henson yn gofyn am ein cymorth i annog ein cymuned i gefnogi ein ffermwyr lleol sydd yn cynhyrchu ein bwyd. Byddwn yn cwblhau tasgau yn seiliedig ar y thema hwn.
Mathemateg: Byddwn yn cwblhau gweithgareddau yn seiliedig ar gwerth lle, adio a thynnu, lluosi a rhannu, mesur, siap a safle, trin data, patrymau rhif ac amser.
Iaith - Cyfarwyddiadau, Rheolau a Rysait. Bydd yr holl waith iaith yn seiliedig ar y thema 'Farm to Fork'. Byddwn yn cwblhau y gwaith ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gwyddoniaeth: Bwyd ac Iechyd
ABCH: Meddylfryd twf a meddwl iach
Dylunio a Thechnoleg/Celf: Tasgau Creadigol o fewn y gwaith thema.
Addysg Gorfforol: Dawns a Gymnasteg / Chwaraeon tu allan bob dydd Iau.
Diolch yn fawr am eich cydweithrediad cyson!
Cofiwch os oes gennych unrhyw bryder, cysylltwch am sgwrs.
Mrs Anna Rowlands