Tymor y Gwanwyn 2022
Yn dilyn y Fframwaith llythrennedd a rhifedd gan Llywodraeth Cymru rydym ni yn yr ysgol yn blaenoriaethu rhifedd a llythrennedd ym mhob agwedd o’r cwricwlwm. I alluogi ein bod yn ymateb i’r gofynion rydym yn dysgu trwy thema.
Yr Ail Ryfel Byd
Blwyddyn newydd dda! Gobeithio eich bod wedi cael gywliau Nadolig braf, ac yn barod at yr hanner tymor yma.
Iaith- Mi fyddem yn astudio’r llyfr “Sais Ydi o Miss” gan Brenda Wyn Jones, ac yn ysgrifennu papur newydd, dyddiadur a phosteri.
Thema- Yr Ail Ryfel Byd
Yn dilyn sbardun cyffrous o’r staff mewn cymeriad warden yn sicrhau fod y plant yn ddiogel yn ystod cyrch awyr.
Mi fyddem yn dysgu am
- Hanes yr Ail Ryfel Byd (sut gychwynodd, llinell amser, gwledydd a gymerodd ran yn y rhyfel)
- Ifaciwis
- Llochesi
- Y Blitz
- Merched yn ystod y rhyfel
- Adloniant
Gwyddoniaeth- Planhigion i Fyw
Mathemateg- Gwerth lle, adio a thynnu, lluosi a rhannu, arian, amser, ffracsiynau, degolion a chanrannau, trin data, mesur, siâp
Iechyd a lles- amser cylch cyson i rannu syniadau a theimladau a chynnal gweithgareddau i godi hunan hyder.
Addysg Gorfforol- Dyddiadur ffitrwydd, sgiliau Pel-droed, gweithgareddau thu allan i wella ffitrwydd
Dawns ffitrwydd ddyddiol
Diolch yn fawr iawn am eich cydweithrediad,
Mrs Fflur Evans