CROESO I'R DOSBARTH DERBYN 2018 - 2019
Tymor yr Hydref 2018
Ar ddechrau blwyddyn newydd, ein nôd yw i sicrhau fod pob plentyn yn ymgartrefu yn hapus yn eu dosbarth newydd.
Yn ystod y tymor byddwn yn gwrando ar syniadau a diddordebau y plant ac yn rhoi'r cyfle iddynt arwain wrth ddewis themau a thasgau. Byddant yn rhan anatod o'r cynllunio i greu ardaloedd diddorol ac ysgogol.
Y thema a ddewiswyd ar ddechrau y tymor hwn yw 'Pwy? Pam? Pryd? Ble?'
Yn ystod y tymor, byddwn yn newid y themau yn gyson yn ôl y diddordeb yn ogystal â chwblhau gweithgareddau a'r Ddiolchgarwch a'r Nadolig.
Diolch yn fawr Mrs Eleri Jones