CROESO I'R DOSBARTH MEITHRIN 2020 - 2021
Tymor yr Hydref 2020
Ar ddechrau cyfnod newydd mewn ysgol newydd, ein prif nôd yw sicrhau fod pob plentyn yn ymgartrefu'n hapus yn y dosbarth.
Yn ystod y tymor byddwn yn gwrando ar syniadau a diddordebau’r plant ac yn rhoi’r cyfle iddynt arwain wrth ddewis
gweithgareddau a thasgau. Byddant yn rhan anatod o'r cynllunio i greu ardaloedd diddorol ac ysgogol.
I ddechrau'r tymor, rydym am ddod i adnabod y plant trwy edrych ar y thema 'Dyma fi'. Yna, byddwn yn gofyn am
syniadau'r plant wrth ystyried themau newydd.
Byddwn yn edrych ar
- rhannau o’r corff
- bwyta a chadw’r corff yn iach
- teulu a ffrindiau
- ardal leol a chartrefi.
- Byddwn yn ogystal yn gosod tasgau a gweithgareddau am Ddiolchgarwch a’r Nadolig.
Cofiwch fod croeso i chi ddod i'n qweld os oes gennych unrhyw gwestiwn neu bryder.
Diolch yn fawr
Mrs Eleri Jones