Targedau’r Siarter Iaith 2019/2020
Canlyniadau Holiaduron Siarter Iaith Hydref 2019
Fel Arweinwyr y Siarter Iaith ac aelodau y Cyngor ysgol rydym wedi dewis targedau i'w datblygu fel ysgol .
Fel rydych yn gweld mae’r Ysgol yn perfformio’n dda iawn ac rydym wedi cael canlyniadau uwch na’r ysgolion eraill yn Sir Ddinbych mewn bron iawn bob cwestiwn . Ond mae’r canlyniadau yn dangos ein bod angen:
Siarad Cymraeg ar fuarth yr ysgol.
Siarad Cymraeg ar y coridor ac yn y Neuadd cinio
Defnyddio’r iaith Gymraeg tu allan i’r ysgol e.e. yn y siopau, caffis,llyfrgell....
Beth mae’r Cyngor Siarter Iaith wedi penderfynu gwneud?
- Dal ymlaen gyda cardiau clôd siarad Cymraeg i’r plant .
- Dysgu gemau buarth Cymraeg i chwarae gyda’r plant iau.
- Parhau i ddatblygu cyswllt gyda’r gymuned i godi ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg.
Gofynnwn yn garedig i chi annog eich plant i drio gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg, a gwylio rhaglenni Cymraeg.
Os ydych yn adnabod rhywun yn y gymuned a fyddai’n awyddus i dderbyn adnoddau Cymraeg, cysylltwch â Mrs Diane Davies trwy ddod i’r ysgol neu drwy e-bost ar Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Llawer o ddiolch am eich cefnogaeth